Gold Star is managed by WCVA on behalf of the Wales MDGs Task Force and BUILD, and funded by the Welsh Assembly Government 'Wales for Africa' scheme.
You can subscribe to our e-newsletter through Groupspaces here.
To download a website map click here.

Events
Penderfyniadau y Panel Grantiau
Penderfyniadau y Panel Grantiau
Panel Grantiau Seren Aur
Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried gan banel sefydlog, yn cynnwys budd-ddeiliaid allweddol Prosiect Seren Aur:
· CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) - Graham Benfield, Prif Weithredwr, a James Maiden, Ymddiriedolwr CGGC a Chydlynydd Rhwydwaith Sector Rhyngwladol Cymru (WISEN).
· Cynllun Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cynulliad Cymru - Jon Townley, Pennaeth Tîm Cymru o Blaid Affrica
· Gweithgor Nodau Datblygu’r Mileniwm Cymdeithas Sifil Cymru - Peter Davies, Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy
· BUILD (Building Understanding through International Links for Development) - John Whitaker, Ymddiriedolwr
Maent yn cyfarfod ar ddyddiadau penodol ar gyfer bob rownd grantiau (cliciwch yma ar gyfer dyddiadau 2009-10)
Sgorio Ceisiadau
I gynorthwyo penderfyniadau’r panel grantiau, bydd pob cais a dderbynnir yn mynd drwy broses sgorio drylwyr, a fydd yn:
· adnabod unrhyw ymgeiswyr sydd wedi’u heithrio neu’n anghymwys i ymgeisio dan reolau Cynllun Seren Aur (gweler y canllawiau ar y tudalennau ymgeisio), neu sydd dan waharddiad gan CGGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru neu’r Comisiwn Elusennau am fethiannau cyfrifo neu gyfreithiol.
· asesu pa mor agos mae gweithgareddau bob argymhelliad yn ateb meini prawf penodol Cynllun Seren Aur.
· rhoi sgôr rhwng 0 a 5 i’r ymatebion i bob cwestiwn ar y ffurflen gais o ran cyflawni meini prawf a chanllawiau’r Cynllun Grantiau, o 0 = dim o gwbl, i 5 = ardderchog. Gellir gweld enghraifft o goldstarcommunities.webspring.org.uk/10109.file.dld href="http://goldstarcommunities.webspring.org.uk/10109.file.dld">ffurflen sgorio yma.
· Lle bo llawer gormod o alw (llawer mwy o ymgeiswyr nag arian ar gael), er mwyn galluogi’r arian i gyrraedd at gymaint o grwpiau ag sy’n bosibl, gellir cynnig canran o’r cyfanswm yr ymgeisir amdano - ee (o’r enghraifft cysylltiedig uchod) os yw’r sgôr yn 36/40 ar gais am £1500, gellid cynnig £1350.
· Os yw costau arfaethedig prosiect yn 'benodol', ac nad oes modd parhau gyda’r prosiect cyfan heb y swm llawn a ymgeisiwyd amdano, mae’n debygol mai ei wrthod fydd yr argymhelliad. Os oes nifer o rannau i’r prosiect arfaethedig, a bod angen cynnig grant llai fel a nodir uchod, gall y panel naill ai a) nodi pa weithgareddau y maent yn cynnig eu hariannu neu b) adael i’r ymgeiswyr benderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer yr arian.
Cyfarfod y Panel Grantiau
· Cyflwynir dogfen gyfrinachol i’r panel grantiau ar gyfer bob rownd grantiau yn crynhoi POB cais, crynodeb o’r argymhellion, sgoriau cwestiynau a chyfanswm sgoriau, ac unrhyw broblem / mater cymhwyster. Hefyd ceir 'crynodeb dewisiadau' y bydd y panel grantiau yn ei ddefnyddio wrth benderfynu a) pa geisiadau i’w derbyn a’u gwrthod (ac am ba resymau); b) pa lefel o arian grant y dylid ei gynnig i bob prosiect; c) unrhyw amodau y dylid eu gosod (gweler isod).
Ceisiadau aflwyddiannus
Hysbysir yn ysgrifenedig a / neu drwy ebost o fewn wythnos i’r canlyniad, a bydd yr ohebiaeth hon yn cynnwys rhesymau’r panel dros wrthod. Noder, ni fydd argymhellion sy’n cael eu gwrthod yn cael eu hail ystyried gan y panel dan rowndiau ariannu yn y dyfodol oni bai eich bod yn derbyn gwahoddiad penodol i’w ail gyflwyno.
Cynigion Grant Di-amod
Hysbysir yn ysgrifenedig a / neu drwy ebost o fewn wythnos i’r canlyniad. Yna byddwch yn derbyn llythyr ffurfiol yn cynnig grant (gyda thelerau ac amodau) y dylid ei ddychwelyd, wedi’i lofnodi, at CGGC er mwyn i ni ryddhau’r grant i’r cyfrif banc a nodwyd yn eich cais.
Cynigion Amodol
Hysbysir yn ysgrifenedig a / neu drwy ebost o fewn wythnos i’r canlyniad, gyda’r telerau ac amodau penodol y mae’n rhaid i chi gytuno i’w cyflawni er mwyn derbyn arian gan CGGC. Os na fedrwch eu cyflawni neu gytuno arnynt, ni ellir rhoi’r grant a dyma ddiwedd y broses. Os fyddwch yn cytuno ar y cynnig amodol, yna byddwch yn derbyn llythyr cynnig grant ffurfiol (gyda thelerau ac amodau) y dylid ei ddychwelyd, wedi’i lofnodi, at CGGC er mwyn i ni ryddhau’r grant i’r cyfrif banc a nodwyd yn eich cais.
Apelio a / neu Gwynion
Dylid eu gwneud yn ysgrifenedig drwy Peter Davies, yn nodi’r union resymau (yn ôl telerau’r cynllun grant) pam yr hoffech i’r penderfyniad gael ei ailystyried gan y panel grantiau. Os wrthodwyd eich cais yn sgil safon / sgorio isel, gellir cynnig cyfle i chi ail lunio ac ail gyflwyno eich cais i’r rownd ariannu nesaf. Os bu canfyddiad anghywir bod eich cais tu allan i reolau a chanllawiau’r cynllun grant, dylech ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais am ail ystyriaeth. Os yw eich cais yn parhau i fod tu allan i ffiniau’r cynllun grant, neu os bernir bod gwall sylfaenol ynddo, bydd penderfyniad y panel grantiau (wedi ailystyried) yn derfynol.