Gold Star is managed by WCVA on behalf of the Wales MDGs Task Force and BUILD, and funded by the Welsh Assembly Government 'Wales for Africa' scheme.
You can subscribe to our e-newsletter through Groupspaces here.
To download a website map click here.

Events
Cyllid Cynaliadwy
Gall ariannu’r gwaith o ddatblygu cyswllt rhwng cymunedau fod yn dipyn o her, ond mae’n ffordd wych o gael pobl a mudiadau – yng Nghymru ac yn Affrica – i gefnogi gwaith y ddolen a datblygiad y naill gymuned a’r llall. Serch hynny, cydraddoldeb a phartneriaeth sydd wrth wraidd cysylltiadau o ansawdd, nid elusengarwch a chyflwyno rhagfarn; felly mae’n hollbwysig ystyried ariannu dolenni a’u prosiectau yn ofalus. Cyn rhuthro i mewn i godi arian, gofalwch eich bod chi a / neu eich grwpiau wedi darllen a deall y prif faterion sy'n cael sylw yn adran Pecyn Creu Cyswllt UKOWLA ar Darparu Adnoddau ar gyfer y Cyswllt.
Ffynonellau Arian ar gyfer Cysylltiadau Sector Penodol
- Ysgolion a Cholegau –www.dfid.gov.uk/funding/globalschools.asp href="http://www.dfid.gov.uk/funding/globalschools.asp" target=_blank>Cynllun ‘Partneriaethau Ysgolion Byd-eang' yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol / Cyngor Prydeinig a www.britishcouncil.org/learning-epa.htm href="http://www.britishcouncil.org/learning-epa.htm" target=_blank>Chynllun EPA
- Addysg Uwch - Cynllun ‘DELPHE' Scheme yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol / Cyngor Prydeinig, www.britishcouncil.org/learning-epa.htm href="http://www.britishcouncil.org/learning-epa.htm" target=_blank>Cynllun EPA a www.acp-edulink.eu/ href="http://www.acp-edulink.eu/" target=_blank>Chynllun EduLink yr Undeb Ewropeaidd; Cynllun Ymchwil yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol
- Cysylltiadau Iechyd – Cronfa Cysylltiadau Iechyd www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?orgid=444 href="http://www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?orgid=444" target=_blank>GIC Cymru o blaid Affrica
Adnoddau Ariannu
- Mae Cyllid Cynaliadwy Cymru yn cynnig arweiniad, adnoddau a chysylltiadau i helpu grwpiau gwirfoddol gyda'r gwaith o ddatblygu sylfaen incwm gadarn, trwy gynlluniau megis debyd uniongyrchol, tanysgrifiadau, codi arian, cynlluniau rhoi trwy'r gyflogres, rhoi trwy'r rhyngrwyd, nawdd corfforaethol a digwyddiadau.
- Cynllun Grantiau Cymunedau Seren Aur
- Pecyn Creu Cyswllt UKOWLA – Pennod ar ddarparu adnoddau ar gyfer y cyswllt
- Mae SMIDOS yn darparu cyngor a hyfforddiant wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer Mudiadau Datblygu Rhyngwladol Bach a Chanolig ar yr uchod. Maent wedi llunio Pecyn Cyflwyniad i Godi Arian ar gyfer Mudiadau Datblygu Rhyngwladol Bach a Chanolig ac mae’r pecyn ar gael yma.
- Mae cynllun ‘Cymru o blaid Affrica’ Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid ar lefel strategol ar gyfer datblygu sector gweithgareddau rhyngwladol Cymru.
- Mae’r DfID (Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol Llywodraeth y DU) yn datblygu Cynllun Cysylltu Cymunedau ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl gallu cael cyswllt i wybodaeth bellach am hyn o ddechrau 2009 ymlaen.
- Mae Sefydliad Waterloo yng Nghymru yn ariannu nifer o brosiectau, a hefyd yn cynhyrchu rhestr o ffynonellau ariannu eraill sy'n ddefnyddiol iawn.