Cam 2: Cyfnewid Syniadau a Delfrydau

Cam 2: Cyfnewid Syniadau a Delfrydau

Ar ôl cychwyn cyswllt cymunedol, gellir mynd ati o ddifrif gyda’r broses gyffrous o ddatblygu'r berthynas rhwng y cymunedau. Mae’r camau cyntaf wrth greu cysylltiad yn brofiad dysgu; yn ogystal â gwrando a dysgu oddi wrth y naill a’r llall, bydd y cymunedau’n dysgu cryn dipyn amdanynt hwy eu hunain. Yn y dechrau, un mudiad (megis eglwys, ysbyty neu ysgol) fydd yn arwain y broses cysylltu, gan dynnu eraill yn y gymuned yn rhan yn raddol wrth i weithgareddau’r cyswllt ddatblygu.

Rhan 3. Sefydlu grwpiau cydlynu yn y ddwy gymuned

  • Rheswm: Bydd y grwpiau cydlynu’n dwyn ynghyd y gwahanol randdeiliaid a grwpiau diddordeb yn y ddwy gymuned i gytuno ar sut y byddant yn trefnu gweithgareddau, cyfathrebiadau a phrosiectau’r cyswllt a ffyrdd o gydweithio. Yn aml iawn, bydd hyn yn weddol anffurfiol ac yn ad hoc yn y camau cynnar, gydag un sector cymunedol yn arwain ac eraill yn dod yn rhan ymhen amser.
  • Tystiolaeth: Nodiadau cyfarfodydd, cyfansoddiadau grŵp neu nodau cytunedig, neu gopïau o ohebiaeth rhwng y cyfranogwyr cyffredinol sydd ynghlwm wrth gydlynu gweithgareddau cyswllt yn y ddwy gymuned.

Rhan 4. Cyfnewid cyfathrebiadau, syniadau, pobl a / neu adnoddau

Rheswm: Bydd y cyfathrebu cychwynnol rhwng y ddwy gymuned yn digwydd yn aml rhwng unigolion penodol dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost, gan drafod cyfleoedd posib ar gyfer prosiectau partneriaeth, ac adeiladu at gyfnewid pobl a/neu adnoddau (sgiliau, cronfeydd, cysylltiadau, ayb). Mae’r cyfnewidiadau hyn yn ffurfio sylfaen gwaith y cyswllt cymunedol, datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, a datblygu ymwybyddiaeth rhyng-ddiwylliant; dylai’r rhain gynnwys cyfnewidiadau rhwng partneriaid.

  • Tystiolaeth: Copïau o gynlluniau a gohebiaeth sy’n berthnasol i’r cyfnewidiadau, ac adroddiadau teithiau neu straeon am gyfnewidiadau ffisegol neu brosiectau sectorau (e.e. rhwng ysgolion, grwpiau lleol ayb).

Rhan 5. Archwilio a dechrau prosiectau ar y cyd a chodi ymwybyddiaeth

  • Rheswm: O’r cyfnewidiadau cychwynnol bydd y grwpiau cyswllt ar y ddwy ochr yn datblygu syniadau am sut gall eu cymunedau gefnogi ei gilydd gyda phrosiectau penodol, ar y cyd fel cyswllt (e.e. hwyluso datblygiad cynghrair gwrthdlodi i ddylanwadu ar y sawl sy’n gwneud penderfyniadau) neu fel ‘sectorau cymunedol’ unigol (e.e. ysgolion yn cydweithio ar brosiect addysg ar y cyd).
  • Tystiolaeth: Copïau o gynlluniau prosiect, cytundebau neu adroddiadau ar feysydd penodol o waith cyswllt ar y cyd rhwng y partneriaid.

Rhan 6. Datblygu Cytundeb Partneriaeth rhwng y ddwy gymuned

  • Rheswm: I sicrhau partneriaeth gydradd a chynaliadwyedd, mae’n rhaid i’r ddwy gymuned feddu ar ddealltwriaeth glir a chytunedig ynghylch beth yw diben y cyswllt; nodau ac amcanion y cyswllt, pwy sy’n gyfrifol am beth, a sut bydd y partneriaid yn cyfathrebu. Mae’n rhaid iddynt gytuno ar feysydd ffocws a gwaith prosiect a sut y byddant yn sicrhau bod y berthynas yn fuddiol i bawb. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys ymgynghori, gwrando a dysgu gan randdeiliaid yn y ddwy gymuned.
  • Tystiolaeth: Dogfen cytundeb partneriaeth rhwng y ddwy gymuned, wedi’i lofnodi gan brif gynrychiolwyr y ddau fudiad cyswllt, a chynrychiolwyr priodol o’u cymunedau. I gyd-fynd â hyn, dylid rhoi crynodeb byr o’r ymgynghoriad a ddefnyddiwyd i gyrraedd cytundeb y bartneriaeth.