Cam 1 - Dod o hyd i’r Partner Delfrydol

Mae pob cyswllt cymunedol yn dechrau gydag un neu fwy o unigolion angerddol sydd am wneud gwahaniaeth trwy feithrin perthynas ystyrlon gyda chymuned arall. Mae rhai’n dechrau gydag unigolion, eraill gydag ysgolion neu eglwysi. Roedd rhai o’r partneriaethau yn y cynllun peilot wedi cychwyn yng Nghymru, a rhai yn Affrica. Boed hynny’n ymwybodol neu beidio, ceir proses ddethol bob amser!

Rhan 1. Datblygu proffil cymuned

· Rheswm: Dylai cymuned sy'n awyddus i gychwyn cyswllt ddatblygu syniad clir o’r hyn y gall eu cymuned ei gynnig, eu diddordebau, yr hyn sy’n eu cymell, a’r hyn y maent yn gobeithio ei ennill o sefydlu cyswllt. Gallech feddwl am hyn fel ‘cadw oed’ cymunedol ..."cymuned wledig o bobl ganol oed, sydd wedi’i hamgylchynu â thir, sydd â diddordeb mewn masnach deg, twristiaeth a diwylliant, yn chwilio am bartner tebyg i gael perthynas a dealltwriaeth er budd i bawb am oes..."!

· Tystiolaeth: Dylai proffil cymuned ddogfennu a disgrifio’n fyr sut gymuned yw eich un chi: maint, siâp, daearyddiaeth, demograffeg, grwpiau cymdeithas sifil, gweithredu lleol, prif faterion cymdeithasol a datblygu; a’r hyn y mae eich cymuned yn gobeithio ei ennill o bartneriaeth gyda chymuned arall, gan ystyried manteision posib i’r ddwy ochr.

Rhan 2. Nodi a chysylltu â chymuned partner

  • Rheswm: Mae angen i chi feddwl am ystyriaethau ymarferol wrth nodi partner cyswllt da, megis iaith, cysylltiadau hanesyddol neu ddiwylliannol, logisteg teithio a chostau, materion neu ddiddordebau penodol, effaith gwrthdaro yn y gorffennol neu yn y presennol, gwybodaeth neu sgiliau penodol y gallai’r naill a’r llall ddysgu oddi wrthynt, a phresenoldeb mudiadau neu bobl ar lawr gwlad y gallech gychwyn y cysylltiad drwyddynt. Bydd hyn yn helpu i ddewis a dethol cymuned i gysylltu â hi, ac sy’n dymuno cysylltu â chi.
  • Tystiolaeth: Dylai dogfen fer yn amlinellu tarddiad y cyswllt dynnu sylw at sut y gwnaethoch eich penderfyniad, a rhoi proffil cymuned eich partner cyswllt cytunedig. Bydd y ddogfen hon yn allweddol i ddatblygu eich cyswllt yn y dyfodol!